21/09/2012

Trydar trydariadau ar Twitter

Y peth mwyaf[0] sydd wedi taro fi heddiw am y busnes Twitter 'ma yw'r anghysondeb a'r diffyg safoni sydd i'w gweld yn y cyfieithiadau.  Dw i ddim yn beio'r pobl sydd wedi bod yn cyfrannu - dim o gwbl, mae pawb wedi gwneud job gwych hyd yma.  Mae jest yn beth naturiol efo system torfol fel hyn - y ffordd mae'n gweithio yn golygu bod pobl yn dod ar draws termau ar hap, heb weld y cyfieithiadau sy'n bodoli eisoes ar gyfer termau tebyg.

Nawr hyd yma dim ond y glosari sydd ar gael i'w gyfieithu, felly dydi o ddim wedi bod yn broblem mawr eto.  Ond gan bod y prif gysyniadau yn mynd i droi fyny yn aml iawn, dan ni'n mynd i ddiweddu fyny efo llanast pan fydd y brawddegau hirach yn ymddangos, os dan ni ddim yn ofalus.  Felly, cyn gynted bydd 'na fan trafod canolog, y peth cyntaf dylen ni wneud yw penderfynu ar gyfieithiadau swyddogol o'r brif dermau, yn ogystal a rhai pethau eraill (e.e., a ddylid cyfieithu acronyms neu beidio?).

A'r ail beth yw, mae rhaid edrych ar y cyd-destun, a'r tab "More information", er mwyn bod yn sicr pa ran ymadrodd (enw, berf ayyb) da chi'n cyfieithu.  A pheidiwch trystio'r diffiniadau ar waelod y dudalen, chwaith - maen nhw'n dweud clwyddau. [1]

Iawn, nawr 'mod i wedi dweud hynny, dw i eisiau mynegi barn personol ar gwpl o bethau:

  • Does dim angen cyfieithu enwau priod.  "Twitter" ydi enw'r wefan mewn unrhyw iaith.
  • Mae "trydar" yn iawn fel berf (dw i'n trydar), ac fel term cyffredinol am y cyfathrebu sy'n mynd ymlaen ar Twitter (dw i wedi darllen yr holl drydar amdani), ond mae'n well gen i'r term "trydiariad" am neges unigol.
  • Mae'n well cadw'r acronyms adnabyddus, fel RT a DM, fel y maen nhw.  Mae "aildrydar" a "neges breifat" yn gyfieithiadau gwych am y termau llawn, ond dw i erioed wedi gweld neb yn dweud "AD" neu "NB".



[0] Heblaw am y ffaith bod y Ganolfan Gyfieithu yn crap, hynny yw.

[1] Bod yn onest, mae'r tab "More info" yn rong weithiau hefyd - e.e. "Search: Noun. A box on your Twitter homepage..." - fyddech chi ddim yn galw'r bocs ei hun yn "Search", na fyddech?  Mae'r gair "Search" wrth y bocs yn ferf, sy'n dweud wrth y defnyddiwr beth mae'r bocs yn ei wneud.

06/08/2012

Diffyg amser: "problemau byd cyntaf" Steddfodol

Mae diffyg amser wastad yn broblem efo pethau fel yr Eisteddfod.  Cymaint o bethau i'w wneud 'mod i'n methu gwneud nhw i gyd, heb sôn am ffeindio'r amser i sgwennu amdanyn nhw mewn blog.  Felly dyma grynodeb sydyn o rhai o'r pethau dw i wedi bod yn gwneud heddiw:
  • Darlith difyr iawn am Iolo Morganwg gan yr Athro Geraint H. Jenkins.  Werth ei weld hyd yn oed os da chi'n gwybod dim byd am hanes, fel fi.
  • Gwneud chain-mail efo Leia (o'r blog Not Since School) yn stondin Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent.  Lot o waith fiddly yn trio cysylltu cylchoedd bach metal efo pleiars!
  • Sesiwn am wneud fideos ar gyfer y We, yn y Gefnlen efo Greg Bevan o Sianel 62.  Aethon ni allan a gwneud pwt bach efo fi'n blagio blas o bob cwrw ar y stondin Syched.  Dwi ddim wedi arfer i fod o flaen camerau, hyd yn oed rhai bach.... Iaics!
Ac yn sôn am stwff gan Greg Bevan - neithiwr yn y Clwb Rygbi roedd y première (dw i'n meddwl) o Wyt ti'n clywed y sîn?, ffilm am ŵyl Hanner Cant wedi'i ffilmio gan bobl efo camera phones ayyb.  Yn hytrach na dangos y perfformiadau eu hunain, y bwriad oedd roi blas o sut brofiad oedd hi i fod yno - ac mae'n llwyddo i wneud hynny i'r dim dwi'n meddwl.  Mae'r ffilm llawn yn awr o hyd, ond gallwch wylio'r trêlar ar YouTube yma:


Wedyn allan i'r unig dafarn oedd yn dal ar agor yn Llanilltud Fawr, efo rhai o bobl clên Cymdeithas.  Cafwyd amser da gan bawb, fel maen nhw'n dweud!


05/08/2012

Diwrnod cyntaf Eisteddfod 2012

Wel dyma fi 'nôl yn fy stafell, ar ôl diwrnod llawn!

Y cynllun oedd codi'n eitha cynnar a gadael erbyn 11, ond oherwydd Insomnia Steddfod, o'n i'n methu cysgu tan bron i 6 y bore - felly ges i lie-in hanesyddol, a gadael tua 1 o'r gloch, jyst mewn pryd i wrando ar y bandiau pres...

Nawr mae rhaid i mi gyfaddef, dw i wrth fy modd efo bandiau pres.  Dw i'n gwybod nad ydi pawb yn cytuno - ella mai dyna pam bod nhw ymlaen reit ar ddechrau'r wythnos? - ond dw i'n joio nhw'n fwy nag unrhywbeth arall sydd i'w weld yn y Pafiliwn.  Ta beth, pwynt ydi, mae wedi dod yn draddodiad bach personol i fi erbyn hyn: dreifio lawr i'r Eisteddfod yn gwrando ar y bandiau pres ar y radio.  (Wedyn mynd mewn a gweld nhw go iawn - ond rhaid aros tan fory am hynna!)

Yn y diwedd, ar ôl taith pedair awr a hanner - a chwpl o albwms ar ôl i'r bandiau pres orffen - cyrrhaeddais y tŷ yn Llanilltud Fawr dw i'n rhannu efo pedwar SSiWer arall.  Ac am dŷ!  O'n i'n arfer byw mewn stiwdio fflat oedd yn llai na'r prif ystafell wely yn y tŷ ma - wir yr!

Ar ôl i mi ddadbacio'r car (yn yr ysbeidiau prin rhwng cawodydd o law), aethon ni gyd allan am bryd o fwyd Eidaleg, i fwyty'r Vesuvio.  Cawson ni groeso cynnes iawn, gwasanaeth Cymraeg cyfeillgar, a bwyd blasus dros ben.  I'w awgrymu.

Wedyn, syrpreis gorau'r dydd: mae'n troi allan bod Clwb Rygbi Llanilltud Fawr, lle cynhelir gigs Cymdeithas yr Iaith, dim ond pum munud i ffwrdd (i gerdded!) o ble dan ni'n aros.  Felly diweddais y noson yn cymryd rhan mewn cwis (wnaethon ni golli'n drwm, fel byddai cwrs 1 SSiW yn dweud), a gwrando ar Lawrence yn chwarae ei gerddoriaeth unigryw - gan gynnwys, fel mae'n digwydd, yr un gân wnaeth ddeffro pawb ym maes pebyll Hanner Cant am wyth o'r gloch yn y bore.

Ac os nad ydach chi'n gwybod beth dw i'n sôn amdano yn fan'na - plîs, peidiwch ag ymchwilio :-)

03/08/2012

Hanner Cant: teimlo'n rhan o hanes

Ces i glywed am gig Hanner Cant am y tro cyntaf ar Twitter, ychydig ar ôl iddyn nhw ddechrau cyhoeddi enwau, trwy aildrydariadau.  I ddechrau, do'n i ddim yn talu gormod o sylw - dw i'n gweld eitha lot o drydar am gigs a gwyliau bach cerddorol Cymraeg, ac yn anffodus, dw i'n byw yn ddigon pell i ffwrdd bod hi ddim yn werth y daith fel arfer, heblaw bod nhw'n cyd-ddigwydd efo rhywbeth arall o ddiddordeb yn yr ardal.  Ond rhywbryd yn y Gaeaf, des i sylweddoli nad gŵyl arferol oedd hyn, ar ôl darllen bod hi'n bosib gweld 50 o fandiau am £20 (cyn hynny o'n i wedi methu rhywsut i wneud y cysylltiad rhwng yr enw a'r nifer o artistiaid).  Allan o'r cwestiwn, felly, i mi golli cyfle mor unigryw i weld cymaint o gerddorion ar yr un pryd!

A wnaeth y cerddorion hynny ddim siomi: nid jest y rhai o'n i'n methu aros i'w gweld (fel Mattoidz, un o'm huchafbwyntiau personol), ond hefyd rhai do'n i ddim wedi gwerthfawrogi ar y radio, wnaeth droi allan i fod yn wych yn fyw (am Geraint Lovgreen yn enwedig dw i'n meddwl yma).  Ac wrth gwrs y darganfyddiadau newydd - erbyn hyn dw i wedi prynu albwms gan 9Bach, Twmffat a Maffia Mr Huws, artistiaid anghyfarwydd i mi dim ond ychydig wythnosau yn ôl.

Ond roedd y profiad yn fwy na hynny.  Cyn cyrraedd, do'n i ddim cweit wedi dallt faint mor fawr, cyffrous a hanesyddol oedd o.  Roedd maint yr adeilad a'r llwyfannau yn un peth (o'n i'n disgwyl rhywbeth tebyg i gigs bach Cymraeg arferol - am sioc!).  Ac roedd yn ysbrydoliaeth gweld faint o dalent sydd allan yna yn y sîn.  Ond beth darodd fi y mwyaf oedd faint o rôl hanfodol mae Cymdeithas, ac ymgyrchu yn gyffredinol, wedi chwarae yn hanes cerddoriaeth gyfoes Cymru.  O'n i'n ymwybodol o hynny i ryw raddau, dw i'n meddwl, ond a bod yn onest do'n i ddim wirioneddol wedi meddwl amdani gormod: i ymgyrchwyr mae'r diolch bod sîn mor fywiog yn bodoli yn y lle cyntaf!  Ac ym Mhafiliwn Bont, yn gwrando ar Dafydd Iwan yn sôn am ei brotestio bron i hanner canrif yn ôl, ac yn canu ymlaen efo'i ganeuon adnabyddus, ces i'r teimlad 'mod i bellach yn rhan o'r hanes hynny.

Felly, do, mi oedd Hanner Cant yn fwy na gig: es i lawr i Bont jest yn ffan o gerddoriaeth Gymraeg, ond des i 'nôl yn aelod o Gymdeithas, ac yn awyddus i helpu sicrhau bydd pethau fel hyn yn gallu digwydd am flynyddoedd i ddod.

02/08/2012

Beth yw dysgwr?

Ysgrifennwyd y nonsens canlynol ar y 30ain o Fehefin.  Dw i newydd ddod rownd i'w gyhoeddi fo!

Yn y rhai diwrnodau ers y cyhoeddiad bod "dysgwraig" wedi cael ei henwebu'n Archdderwydd, dw i wedi bod yn meddwl am ddiffiniad union y gair "dysgwr".

Un peth sydd wastad wedi taro fi yw'r ffordd bod y gair fel arfer yn golygu "dysgwr o'r iaith Gymraeg", heb angen geiriau eraill. Hyd y gwn i, does neb yn Ffrainc (er enghraifft) yn sôn am 'apprenants' yn yr un modd, heblaw os ydi'r cyd-destun eisoes wedi sefydlu mai iaith yw'r pwnc dan drafodaeth. Mae hyd yn oed teitl cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyfieithu fel "Welsh Learner of the Year", er bod y cyd-destun yn ddigon amlwg yno. Ond yn y Gymraeg, heb unrhyw gyd-destun penodol, cymerir yr ystyr ieithyddol yn ganiataol. (Mae fel yr arfer o gyfeirio at y Gymraeg fel "yr iaith", peth sy'n taro'n od wedi'i gyfieithu'n uniongyrchol!)

Nawr dw i ddim yn honni bod hyn yn sylweddoliad chwyldroadol - mae pawb sy'n siarad mwy nag un iaith yn gwybod nad yw geiriau ieithoedd gwahanol yn mapio'n un-i-un ar eu gilydd. Ond mae'n ddiddorol iawn i mi bod dysgwyr i'w gweld yn ddigon pwysig, niferus a blaengar yn y byd Cymraeg bod y defnydd hwn wedi dod mor gyffredin.

Yr ail beth i ystyried yw, beth yn union ydi ystyr y gair ei hun?  "Wel, rhywun sy'n dysgu Cymraeg" meddwch chi'n ddigon rhesymol.  Ond lle mae tynnu'r llinell rhwng dysgwr a siaradwr?  Ydi rhywun a ddechreuodd fel oedolyn yn 'ddysgwr' am oes?  Hefyd, sut mae diffinio 'fel oedolyn'?  Ydach chi'n 'ddysgwr' os wnaethoch chi ddechrau yn 16 oed?  Beth am 12?  Neu 8?

I osgoi'r cymhlethdodau hynny, mae rhai pobl yn hyrwyddo'r term 'siaradwyr ail iaith' yn hytrach na 'dysgwyr'.  Ond mae problemau yno hefyd: sut mae diffinio 'ail'?  Beth am, er enghraifft, rhywun dwyieithog-ers-eu-plentyndod-cynnar Saesneg/Ffrangeg sy'n dysgu Cymraeg fel oedolyn?  Beth am bobl fel fi sydd wedi dysgu dwy iaith fel oedolyn - ai 'fy nhrydedd iaith' yw'r Gymraeg, neu oes gen i 'ddwy ail iaith' neu beth?  Ydi o'n mynd mewn trefn cronolegol, neu oes modd i'ch ail a'ch trydedd ieithoedd newid lle, yn dilyn newidiadau yn eich gallu i'w siarad nhw?

Ffordd boblogaidd arall o gyfeirio at ddysgwr profiadol yw dweud bod nhw "wedi dysgu", ond mae ofn arna' i ei defnyddio - dw i'n sicr ddim eisiau rhoi'r argraff 'mod i'n ystyried fy Nghymraeg yn "waith gorffenedig"!  Mae dysgu yn broses barhaol, ac wedi'r cwbl, dydw i ddim wedi "gorffen" dysgu Saesneg chwaith, nac ydw?

Ta beth - does gen i ddim ateb i'r cwestiynau uchod, heblaw i ddweud bod 'na ddim angen ffeindio term addas i'n disgrifio ni, y dysgwyr-sy-wedi-dod-yn-siaradwyr, oherwydd mai siaradwyr ydyn ni.  A dylai hynny fod yn ddigon mewn unrhyw gymuned ieithyddol - yn enwedig un "lleiafrifol".

Cwpl o ddiwrnodau ar ôl sgwennu'r uchod, wnes i ddal lan ar fy Google Reader a gweld sylwadau Carl, a dw i'n hoff iawn o'i syniad o ddefnyddio'r gair 'mabwysiadwr'. Felly mae gen i un famiaith a dwy iaith fabwysiedig. Gwych! :)

Hunaniaeth ac iaith

Tua deufis yn ôl, pan oedd y fflam Olympaidd ar ei ffordd trwy Gymru, a phenwythnos hir y Jiwbilî jyst rownd y gornel, roeddwn i'n mynd trwy gyfnod eithaf wyneb-i-waered yn fy mywyd. O ganlyniad, llwyddais rhywsut i osgoi bron yr holl heip yn y byd go iawn. Ond roedd y radio yn y car yn dal wedi tiwnio mewn i Radio Cymru fel arfer, a bob hyn a hyn, daliais i fyny efo Twitter ar fy ffôn (ac mae rhan fwya'r pobl dw i'n dilyn yn drydarwyr Cymraeg). Felly, er i mi fyw bywyd eithaf ynysig mewn maestref Seisnig ar y pryd, trwy lygaid Cymraeg yn unig wnes i ddilyn yr holl beth. A fel gallech chi ddychmygu, roedd y sylwebaeth yn un eithaf negyddol!

Dw i'n ddigon cyfarwydd efo'r rhesymau tu ôl i'r negyddoldeb hynny, a dw i ddim yn mynd i feirniadu neu hyd yn oed anghytuno efo fo (mae gynnoch chi bwynt, wir). Ond mae wedi gwneud i mi feddwl am hunaniaeth genedlaethol, a sut mae'n ffitio efo fy nghefnogaeth o'r iaith Gymraeg.

Mae fy nheimladau tuag at Brydeindod wedi mynd trwy tipyn o newidiad dros y blynyddoedd. Fel plentyn mewn tref fach yn Ngogledd Lloegr lle mae pawb yn bobl lleol, do'n i ddim yn wirioneddol ymwybodol hyd yn oed o ardaloedd eraill yn Lloegr, heb sôn am unrhyw le arall. Hyd yn oed nes ymlaen mewn ysgol rhyngwladol iawn ym Manceinion, ro'n i'n dal yn euog o feddwl am Brydain fel "Lloegr efo bits bach yn hongian oddi arni".

Wedyn pan o'n i'n mynd allan efo merch o Ffrainc, ac yn dysgu Ffrangeg, ces i weld y byd 'anglo-saxon' (fel maen nhw'n galw fo) o berspectif tu-allan-tu-mewn am y tro cyntaf. Yna des i sylweddoli pa mor "ieithyddol ymerodraethol"[0] dan ni yn y gwledydd Saesneg-eu-hiaith yn gallu bod, a'r safonau dwbl sy'n bodoli pan mae'n dod i "pwy ddylai ddysgu iaith pwy". Er mwyn ymbellhau oddi wrth yr holl gysylltiadau annymunol, dechreuais meddwl amdanaf fy hun fel Prydeinwr yn hytrach na Sais - fel ffordd o ddweud "gwelwch - dw i'n Sais progresif, modern â meddwl agored, sy'n gwybod y gwahaniaeth rhwng Lloegr a Phrydain". Hurt, efallai, ond dyna ni.

Erbyn hyn dw i wedi dod dros yr holl 'embaras' gwirion o berthyn i gymuned ieithyddol ymerodraethol, ond dw i'n dal yn stryglo i fod yn browd o fy Seisnictod. Efallai oherwydd yr absennoldeb o deimlad genedlaethol yng nghymdeithas gyfoes Lloegr[1], neu'r ofn y bydd pobl yn ei gamddehongli fel cenedlaetholdeb Prydeinig (sy'n anffodus yn gyfystyr â hiliaeth y dyddiau 'ma). Mae'n bosib mai dyna rhan o fy atyniad at Gymru, dwn i ddim. Dw i'n meddwl 'mod i'n teimlo mwy o gysylltiad efo'r Gymraeg achos bod hi'n un o ieithoedd "fy ngwlad" (h.y. Prydain). Ond ta beth, mae'n dal yn well gen i ddod o Brydain na Lloegr.

Nawr, dw i'n "wleidyddol agnostig" am Gymru, heblaw pan mae'n dod i faterion iaith. Mae ieithoedd yn beth pwysig iawn yn fy mywyd, dw i'n credu'n gryf yn yr hawl sydd gan bob iaith i fodoli - ac yn fwy na hynny mae gen i 'stake' personol yn nyfodol y Gymraeg achos dw i'n siaradwr ohoni. Felly, mae gwleidyddiaeth ieithyddol Cymru o ddiddordeb mawr i mi. Ond dw i erioed wedi bod yn arbennig o wleidyddol yn gyffredinol, does gen i ddim gwaed Cymreig, a dydw i ddim hyd yn oed yn byw yng Nghymru (eto, o leiaf), felly mae'n anodd i mi fynegi barn am y gweddill. Ond pan dw i'n gweld rhai pobl yn honni nad yw hunanieth Prydeinig yn cyd-fynd â chefnogaeth o'r iaith Gymraeg, mae rhaid i mi ofyn sut maen nhw'n gweld person fel fi yn ffitio mewn i'r safbwynt yna!

Yn bersonol wrth gwrs, does gen i ddim ots. Dw i erioed wedi bod efo teimladau o 'berthyn' i unrhyw wlad[2], felly dw i'n ddigon hapus i gario ymlaen heb hunaniaeth genedlaethol. Ond bwddyn i'n licio cael clywed beth mae pobl yn feddwl.

[0] Gobeithio bod hynny'n gwneud synnwyr. Dw i'n croesawu adborth ar fy ymdrechion i sgwennu Cymraeg ffansi.
[1] Na, dydi baneri pel-droed ddim yn cyfrif.
[2] Wedi dweud hynny, dw i yn falch o fod yn Westmerian (rhywun o'r hen sir o Westmorland).